Pafiliwn

English translation is available

Rhybudd – Rhaid i bawb sydd am weld y seremoni fod yn eu seddau erbyn 15.45

Nid agorir y drysau wedyn hyd nes bod gorymdaith yr Orsedd wedi gadael y Pafiliwn tua 17.00

Ffanfer a gorymdaith yr Archdderwydd a’i hosgordd

Canu’r Corn Gwlad: Dewi Corn a Gwyn Anwyl

Gofynnir i aelodau’r gynulleidfa sefyll pan genir y Corn Gwlad i’w cyfeiriad, ac aros ar eu traed tra offrymir Gweddi’r Orsedd

Gweddi’r Orsedd: Llinos Bontgoch

Gair o groeso gan yr Archdderwydd, a chyflwyno beirniaid cystadleuaeth y Priflenor Rhyddiaith: Annes Glynn, John Roberts, Elen Ifan

Beirniadaeth: Annes Glynn

Cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau: Newid

Gwobr: Y Fedal Ryddiaith (Clochdar, papur bro Cwm Cynon, er cof am Idwal Rees, pennaeth cyntaf Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr) a £750 (Cymdeithas Gymraeg Rhiwbeina)

Geilw’r Archdderwydd ar yr osgordd i gyrchu’r llenor buddugol, a gofynnir iddynt sefyll ar alwad y Corn Gwlad

Cyhoeddir enw’r llenor buddugol ac fe’i gwahoddir i eistedd yn hedd yr Eisteddfod

Arwisgo’r Priflenor yn ôl braint a defod yr Orsedd

Cywydd Cyfarch y Priflenor: Siriol Elin

Cyfarch y Priflenor: Y Priflenor Meleri Merch y Môr

Cyflwynir dawns er anrhydedd i’r Priflenor gan Ddawnswyr Bro Taf

Hyfforddwyd y dawnswyr gan Gavin Ashcroft ac Eirlys Britton

Cyflwynydd y Corn Hirlas: Seren Hâf MacMillan | Macwyaid y Llys: Rhys Thomas a Jacob Watkins

Cyflwynydd y Flodeuged a Chynnyrch y Meysydd: Ffion Haf Roberts | Llawforynion y Llys: Mari Butcher ac Efa-Grug Thomas

Hen Wlad fy Nhadau

Arweinir y Priflenor allan gan yr Archdderwydd, â’r Orsedd yn eu hebrwng

Gofynnir yn garedig i’r gynulleidfa aros yn eu seddau nes i’r orymdaith adael y Pafiliwn

Telynores y Seremoni: Telynores Glannau Taf

Organydd: Euros Llys-myfyr