Y Lle Celf

Ugain mlynedd ers y perfformiad cyntaf yn y Gymraeg, dyma gyflwyno Shinani’n Siarad, addasiad Sharon Morgan o The Vagina Monologues gan Eve Ensler, gwaith arloesol, pwysig a gwleidyddol sydd dal yn gwbl berthnasol i ni yng Nghymru heddiw

Sharon Morgan (Martha Jac a Sianco, Tair Chwaer, Gangs of London), Delyth Wyn Jones (Palmant Aur, Amgueddfa, Y Golau), a Maria Pride, (Pobol Y Cwm, Amgueddfa, Pren ar y Bryn) tair o’n hactoresau mwyaf profiadol, sy'n cyflwyno’r gwaith gan eich tywys ar hyd y daith emosiynol, ddoniol a dirdynnol hon sy’n datgelu perthynas menywod â'u shinanod, y tabŵ eithaf

Dewch i chwerthin, crïo, ystyried, ond yn bwysicach oll i ryfeddu