Maes D

English translation is available

Ers 2022, mae’r rhaglen Taith wedi bod yn darparu cyfleoedd i bobl o Gymru gael profiadau addysgol rhyngwladol a chydweithio gyda phartneriaid ar draws y byd. Yn y sesiwn hon byddwn yn trafod pwrpas ac amcanion Taith a gweledigaeth ein strategaeth. Yn ogystal, byddwn yn edrych ar effaith gwahanol brosiectau ar unigolion a sefydliadau wrth iddyn nhw elwa o gymryd rhan mewn prosiect rhyngwladol, yn enwedig y cyfranogwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes cyfnewid rhyngwladol.