Sgwrs am fywyd a chyfnod un o delynorion blaenaf Cymru, Thomas Dafydd Llewelyn, 'Llewelyn Alaw' 1828–79, casglwr alawon a chyfansoddwr blaenllaw ei gyfnod
Yn 1858 enillodd y wobr yn Eisteddfod Llangollen am y casgliad gorau o alawon Cymreig heb eu cyhoeddi, gan gynnwys Glan Rhondda. Gofynnodd beirniad y gystadleuaeth, 'Owain Alaw', am ganiatâd i gynnwys Glan Rhondda yn ei gyhoeddiad, 'Gems of Welsh Melody' (1860–64).
Rhoddodd y gyfrol hon ei theitl mwy enwog i Glan Rhondda, 'Hen Wlad Fy Nhadau'. Yng ngwasanaeth agoriadol yr ‘adeilad newydd’ Hen Dŷ Cwrdd, yn 1862 (Hen Dŷ Cwrdd yw capel anghydffurfiol hynaf Trecynon, claddwyd Llewelyn Alaw yno) chwaraewyd fersiwn pwrpasol o Hen Wlad Fy Nhadau
Nodir hyn yn Ymofynydd 1862 (cylchgrawn enwadol Undodaidd)