Naw drama newydd sy'n digwydd mewn car. Ar ôl y ddrama gyntaf, bydd y gynulleidfa, tri ym mhob car, yn symud i'r cerbyd nesaf, gan gael cyfle i ymgolli mewn tair drama dros gyfnod o hanner awr
Archebwch docynnau ymlaen llaw drwy Eventbrite o wefan Theatr Spectacle
Mae'r dramâu wedi eu hysgrifennu a'u perfformio gan awduron ac actorion proffesiynol yn arbennig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2024, gan gynnwys Angharad Devonald, Alun Saunders, Richard Elis, Mair Tomos Ifans, Anwen Huws, Iestyn Gwyn Jones, Victoria Pugh, Leslie R Herman Jones a Bryn Cockram.
Mae pob drama yn para pum munud. Mae'r gynulleidfa'n eistedd yn y car ac yn ymgolli yn y ddrama. Fe fyddan nhw'n symud i'r cerbyd nesaf ar ôl i'r ddrama gyntaf ddod i ben, gan ddod ar draws tair drama dros gyfnod o hanner awr. Mae gan bob drama awdur Cymraeg gwahanol ac fe'i perfformir gan gast gwahanol.
Mae'r gynulleidfa wedi'i chyfyngu i dri o bobl ym mhob car. Bydd y dramâu yn cael eu perfformio drwy gydol y dydd.
Mae’r dramâu’n archwilio themâu mawr bywyd: cariad, rhyw, marwolaeth. Dramau iasol ond llawn hiwmor - cyfle i ymgolli'n llwyr!