Tŷ Gwerin

Peidiwch â cholli'r chwistrelliad heintus hwn o ddawnsio, clocsio ac alawon Cymreig gan arch-grŵp ifanc o fand twmpath!

Cafodd TwmpDaith 2023 ei dreialu yr haf diwethaf gyda'r band yn teithio neuaddau pentref a gwyliau ar hyd a lled Cymru, gan orffen gydag un o uchafbwyntiau'r Tŷ Gwerin ym Moduan – gyda’r lle yn llythrennol yn bownsio!

Daw TwmpDaith 2024 â set newydd sbon o gerddorion a dawnswyr ifanc o bob cwr o Gymru at ei gilydd, sydd yr un mor dalentog â'u traed ag y maent gyda'u hofferynnau a'u lleisiau. Bydd eu brwdfrydedd ifanc, egni diderfyn a'u halawon Cymreig bywiog yn ysbrydoli pawb i ddawnsio mewn dim o dro.

Daethpwyd â'r band at ei gilydd gan Prosiect WYTH a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru i hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymreig. Wedi'i ysbrydoli gan brosiect tebyg yn yr Alban o'r enw’r Ceilidh Trail, mae'r prosiect wedi grymuso'r bobl ifanc i chwarae, cyfeilio, galw, perfformio eitemau a chynnal gweithdai a thwmpathau sy'n addas ar gyfer pob oedran a gallu

Facebook X Instagram