Tŷ Gwerin

Dewch i brofi egni VRï sy'n taflu goleuni newydd ar ein traddodiad gwerin bywiog


VRï yw Jordan Price Williams (soddgrwth, llais), Aneirin Jones (feiolin, llais) a Patrick Rimes (feiola, feiolin, llais).

Wedi’u hysbrydoli gan stori anhygoel cyfnod pan gafodd cerddoriaeth a dawnsio traddodiadol Cymru eu darostwng gan gapeli’r Methodistiaid, ac, yn gynharach, ei hiaith gan y Ddeddf Uno, mae VRï yn taflu goleuni newydd ar draddodiad gwerin bywiog sy’n harneisio egni amrwd y ffidil gyda cheinder y feiolin, a phrydferthwch cerddoriaeth siambr gyda llawenydd a phleserau sesiwn mewn tafarn, gyda harmonïau lleisiol pwerus yn sail i’r cyfan

Cynhyrchiad y Mwldan