Rydyn ni am i bawb gael amser gwych yn yr Eisteddfod.  Helpwch ni i’ch helpu chi gyda pharatoadau olaf ar gyfer traffig a pharcio drwy gwblhau’r arolwg yma

Rydyn ni wedi paratoi ambell awgrym i’ch helpu wrth i chi baratoi ar gyfer eich ymweliad: 

Beth am fynd ati i gynllunio’ch taith nawrBydd rhai newidiadau i drefniadau teithio lleol yn ystod y cyfnod.  Felly, os ydych chi angen prynu tocyn teithio ymlaen llaw, gwnewch hynny’n fuan er mwyn osgoi cael eich siomi.

Os ydych chi'n byw neu’n aros yn lleol, beth am feicio, cerdded neu ddefnyddio’r bysiau lleol? Mae disgwyl i'r ffyrdd fod yn brysurach na'r arfer.

Chwilio am rywle i aros yn lleol?  Beth am archebu safle ar y maes carafanau a gwersylla neu mewn llety lleol?  Ewch ati i sicrhau lle cyn gynted â phosibl.  Mae disgwyl i’r ffyrdd a’r meysydd parcio lleol fod yn brysurach na'r arfer felly bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn gwych. 

Angen dod yn y car?  Defnyddiwch y gwasanaeth parcio a theithio rhad ac am ddim ar gyrion y dref i ddal bws gwennol i’r Maes.  Gallwch archebu eich lle parcio a theithio yma.  

Beth am adael y car a dod ar y trên?  Mae’n hawdd iawn cyrraedd y Maes o’r orsaf.  Bydd y trenau’n brysurach na’r arfer felly cofiwch ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer teithio. Cofiwch brynu eich tocyn ymlaen llaw hefyd, er mwyn osgoi ciwiau. 

Defnyddiwch wefan Traveline Cymru i gynllunio’ch taith. Chwiliwch am ‘Eisteddfod’ am wybodaeth sy’n berthnasol i chi. Ewch i dudalen y Cyngor am yr wybodaeth ddiweddaraf ar deithio’n lleol yn ystod yr ŵyl.

Mwynhewch eich ymweliad, a chofiwch ddod nôl i grwydro rhagor yn Rhondda Cynon Taf yn y dyfodol.