Croeso i'r Eisteddfod

Mae’r Eisteddfod yn dod i Wrecsam yn 2025 – dewch i fod yn rhan o’r hwyl!

Ymunwch â’ch pwyllgor lleol: Rydyn ni wedi rhannu’r ardal yn nifer o barthau ac yn gwahodd pobl i ymuno â’r pwyllgor ym mhob ardal, i godi arian ac ymwybyddiaeth drwy drefnu pob math o weithgareddau Cymraeg a dwyieithog.  Diddordeb?  Cliciwch ar y grŵp sy’n lleol i chi:

  • Cronfa Leol ardal Ceiriog (Dyffryn Ceiriog - Y Waun - Croesoswallt)
  • Cronfa Leol ardal Dyfrdwy (Rhos - Ponciau - Johnstown - Rhiwabon - Acrefair - Garth -Froncysyllte - Penycae - Pentrebychan - Y Bers - Rhostyllen -Cefnmawr -Trevor – Rhosymedre)
  • Cronfa Leol ardal Clywedog (Coedpoeth - Y Mwynglawdd - Gwynfryn - Bwlchgwyn -Brymbo - New Broughton - Tanyfron - Southsea - Pentre Broughton - Caego – Brynteg)
  • Cronfa Leol ardal Alun (Gwersyllt - Summerhill - Bradle - Llai - Marford – Gresffordd - Yr Orsedd/Rossett -Burton – Hossley)
  • Cronfa Leol Wrecsam Canolog (Borras - Gwaunyterfyn /Acton - Little Acton - Maesydre - Rhosnesi - Offa - Erddig - Hermitage - Brynyffynnon -Rhosddu - Garden Village - Grosvenor - Stansty – Caia)
  • Cronfa Leol ardal Maelor (Marchwiel - Bangor is y Coed - Cross Lanes - Owrtyn - Penley - Maelor -Holt -Ystad Diwydiannol)

Ddim ar facebook?  Ebostiwch gwyb@eisteddfod.cymru er mwyn dod yn rhan o’ch grŵp lleol. 

Chwilio am syniadau codi arian ac ymwybyddiaeth? Cliciwch ar y ddolen ar waelod y dudalen am syniadau.

Bore Hoffi Coffi: Cliciwch ar y ddolen ar waelod y dudalen am wybodaeth ac adnoddau ein Bore Hoffi Coffi.

Cynghorau Cymuned: Rydyn ni wedi cysylltu gyda holl gynghorau cymuned y dalgylch er mwyn holi am gefnogaeth.

Nawdd: Mae unrhyw rodd neu nawdd hyd at £3,500 yn mynd i’r Gronfa Leol.  Ebostiwch os oes ydych chi’n cael cynnig swm mwy er mwyn i ni drafod buddion corfforaethol.

Gwobrau: Mae ein gwobrau i gyd ar gael ar-lein i'w prynu.  Dyma ffordd ardderchog i anrhydeddu neu gofio unrhyw un sy’n credu yng ngwaith yr Eisteddfod.

Gwobrau Mawr: Mae ein gwobrau mawr i gyd ar gael ar hyn o bryd.  Ystyried cyflwyno’r Gadair neu un o’n medalau? Cliciwch ar y ddolen ar waelod y dudalen.

Bwcedi neu flychau casglu: Ebostiwch ni er mwyn trefnu blwch casglu neu fwced ar gyfer digwyddiad.

Amlenni rhoddion a rhodd gymorth: Ebostiwch ni am stoc o amlenni codi arian Wrecsam.

Posteri a hysbysebion cyfryngau cymdeithasol: Ebostiwch ni os hoffech chi gael cyngor neu gymorth ar sut i greu posteri neu hysbysecion ar gfyer eich gweithgareddau.

Logos yr Eisteddfod: Anfonwch ebost er mwyn i ni anfon ein logos atoch.

Cyflwyno rhodd: Ebostiwch oriel@eisteddfod.cymru i drafod sut y gallwch gyflwyno rhodd i Eisteddfod 2025.

Cyhoeddi Eisteddfod 2025: Dewch i fod yn rhan o’r orymdaith gymunedol neu dewch i wirfoddoli wrth i groesawu pawb i Wrecsam – cliciwch ar y ddolen ar waelod y dudalen. 

Diolch am eich holl gefnogaeth.