Cor Eisteddfod 2025 | Eisteddfod Choir 2025

Ydych chi eisiau bod yn rhan o gyngerdd egnïol sy'n cynnwys rhai o ganeuon mwyaf eiconig Cymru? Dyma'ch cyfle!

Cofrestrwch gyda Chôr yr Eisteddfod 2026 i fod yn rhan o sioe gerdd gyffrous i'w pherfformio ar Lwyfan y Pafiliwn ar Faes Eisteddfod Y Garreg Las ym mis Awst.

Beth yw stori'r sioe?

Dyma sioe jukebox o ganeuon gan Ail Symudiad, y band new wave chwyldroadol o Gymru, sy'n dilyn hanes Mam a Mab a’u criw o ffrindiau lliwgar sydd eisiau achub eu caffi bach mewn tref arfordirol yng Ngorllewin Cymru yn ystod chwyldro cymdeithasol y 60au.

Dyma gyfle i ddathlu Gorllewin Cymru a’i bobl trwy sicrhau bod lleisiau’r gymuned yn ganolbwynt i’r sioe. Dim ots os ydych chi’n 16 neu’n 106, rydym eisiau trawsdoriad o bobl i gynrhychioli pob elfen o gymdeithas ac ystod eang o oedrannau, o blant ysgol i gynulleidfa gig, o berchnogion siopau i gwsmeriaid y caffi.

Bydd y pafiliwn yn cael ei drawsnewid yn un gig mawr wrth i ni fwynhau gyda’n gilydd a chanu a dawnsio i rai o ganeuon mwyaf eiconig Cymru mewn dathliad o gymuned, dyfalbarhâd ac hunaniaeth.

Pwy yw'r tîm creadigol?

Arweinyddion y Côr

Cyfarwyddwr

Ysgrifennydd

Cyfarwyddwr Cerddorol

Pryd fydd ymarferion?

Bydd ein cyfarfod ac ymarfer cyntaf ar ddydd Sul 1 Chwefror 

Croeso i bawb 16+. 

Sut ydw i'n ymuno?

Gellir ymuno â’r Côr drwy gofrestru ar waelod y dudalen. 

Dyma luniau o Gyngerdd y Côr yn Wrecsam:

Llais
Anghenion Hygyrchedd
Dewiswch 'Oes' os hoffech gynnwys unrhyw anghenion hygyrchedd cyffredinol. Ebostiwch gwyb@eisteddfod.cymru am fwy o wybodaeth neu gydag unrhyw gwestiwn.