Bydd cyfle i drigolion Wrecsam i fod yn rhan o ddau brosiect cyffrous, sy’n plethu gyda rhaglen artistig Eisteddfod 2025.
Cofrestrwch gyda Chôr yr Eisteddfod i fod yn rhan o sioe gerdd gyffrous i'w pherfformio ar Lwyfan y Pafiliwn ar Faes Eisteddfod Wrecsam ym mis Awst.
Maen nhw’n deud taw Wrecsam yw canolbwynt pêl-droed Cymru, ond nid yw’r hen gêm o hyd yn un prydferth…
Dewch ar daith sy'n mynd at galon cymuned Wrecsam, a byddwch yn rhan o stori llawn gobaith, emosiwn, a ffwtbol wedi ei ysgrifennu gan Manon Steffan Ros.
Teimlwch guriad calon y cefnogwyr mewn caneuon newydd gan Osian Williams, sy'n talu teyrnged i fri cerddoriaeth roc yr ardal ac yn dwyn dylanwadau o'r alawon angerddol sy'n cael eu clywed o'r Capel i'r Cop.
Ymunwch â Chôr yr Eisteddfod i fod yn rhan o'r dorf danllyd hon, a chanwch dros Wrecsam ar un o lwyfannau mwyaf adnabyddus Cymru.
Arweinyddion y Côr | Pete Davies, Elen Mair Roberts, Aled Phillips
Cyfarwyddwr | Siwan Llynor
Ysgrifennydd | Manon Steffan Ros
Cyfarwyddwr Cerddorol | Osian Williams
Bydd cyfle hefyd i’r côr berfformio rhan o Dewi Sant, Arwel Hughes, fel rhan o Gymanfa Ganu’r Eisteddfod a fydd dan arweiniad Ann Atkinson. Ceir mwy o wybodaeth yn yr ymarfer cyntaf.
Ymarferion:
Bydd ein cyfarfod ac ymarfer cyntaf ar ddydd Sul 2 Chwefror 14:00-16:00 ar Gampws Coleg Cambria, Wrecsam.
Croeso i bawb 16+.
Gellir ymuno â’r Côr drwy gofrestru yma