Mae cystadleuaeth golff yr Eisteddfod yn gyfle i ddod i adnabod a rhoi tro ar gyrsiau golff ar hyd a lled Cymru yn flynyddol, mewn awyrgylch gyfeillgar a hwyliog.
Sefydlwyd y gystadleuaeth yn 1985, a thros y ddeugain mlynedd ddiwethaf, mae'r gystadleuaeth wedi datblygu'n elfen boblogaidd a phwysig o wythnos yr Eisteddfod. Mae dros 100 o chwaraewyr yn cymryd rhan yn flynyddol.
Mae amseroedd 'tee' yn cychwyn rhwng 07:30 a 15:30, a gellir archebu eich amser ar wefan y clwb yma o 09:00 ddydd Gwener 28 Chwefror.
O ran fformat, mae'n gystadleuaeth 'stableford' dynion a merched, gyda gwobrau ar gyfer:
- Aelod gwrywaidd goau
- Gwestai gwrywaidd gorau
- Aelod benywaidd gorau
- Gwestai benywaidd gorau
Amodau
Handicaps uchaf:
- Dynion: 28
- Merched: 36
- Lwfans: 95%
Tees
- Dynion: melyn
- Merched: Coch
Seremoni wobrwyo am 20:00
Pris Cystadlu: £25 i ymwelwyr | £10 i aelodau Clwb Golff Wrecsam.
Rhaid cael WGH (World Golf Handicap) swyddogol i fod yn gymwys i ennill gwobr.