Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol wedi'i drawsnewid, ac mae'n ardal rhyngweithiol, deniadol a chyffrous, sy'n dod â phob elfen o STEAM yn fyw i ymwelwyr o bob oed.

Gyda rhaglen gyfoes o weithgareddau, o sgyrsiau a chyflwyniadau am y datblygiadau gwyddonol diweddaraf ar draws y byd, i gyfleoedd i blant gael arbrofi gyda phob math o wyddoniaeth, dyma un o ardaloedd prysuraf a mwyaf poblogaidd y Maes.

Beth am ddod i fod yn rhan o'r Pentref eleni?  Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau gan gyrff, cwmnïau a sefydliadau sy'n rhan o'r byd gwyddoniaeth a thechnoleg i gael presenoldeb yn y Pentref.

Mae gennym nifer cyfyngedig o gytiau pren deniadol sengl a dwbl a fydd yn cael eu gosod o amgylch y Pentref.  Cwblhewch y ffurflen isod, a bydd un o'r tîm yn cysylltu am ragor o wybodaeth.

Mae cyfleoedd nawdd hefyd ar gael yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg.  Lawrlwythwch y pecyn isod am ragor o wybodaeth.

Pecyn nawdd Gwyddoniaeth a Thechnoleg 2025 Lawrlwytho
Pecyn llogi gofod Gwyddoniaeth a Thechnoleg 2025 Lawrlwytho
Mae gen i ddiddordeb mewn noddi a chynnal sesiynau STEAM yn ystod yr wythnos
Mae gen i ddiddordeb mewn noddi'r Babell Weithgareddau