Y Lle Celf

Yn 2026, byddwn yn dathlu 150 mlynedd ers y "Flwyddyn o Ryfeddod" a ddaeth a digwyddiadau a newidiadau mawr i Wrecsam

Mae "Blwyddyn o Ryfeddod" yn ddisgrifiad addas o 1876. Roedd y digwyddiadau arwyddocaol a'r newidiadau mawr yn Wrecsam yn cynnwys yr Arddangosfa Drysorau Celf a Diwydiannol a barodd am 4 mis, ffurfio Cymdeithas Bêl-droed Cymru, agoriad mynwent Ffordd Rhiwabon, yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf i gael ei chynnal yn y dref, y rhwydwaith tramiau gwreiddiol a llawer mwy. Yn 2026, byddwn yn nodi 150 mlynedd ers y "Flwyddyn o Ryfeddod" hon gyda llu o ddigwyddiadau i ddathlu diwylliant, treftadaeth a diwydiant Wrecsam - y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.