Un o fandiau mwyaf dyfeisgar Cymru, sy’n cyfuno cerddoriaeth gynhenid Gymraeg gyda synau a churiadau cyfoes. Drwy ailfreuddwydio ac ailddiffinio hunaniaethau diwylliannol mae eu cerddoriaeth yn bont rhwng y gorffennol a’r presennol
Er eu bod wedi cymryd saib o lygad y cyhoedd yn ddiweddar, mae Lisa Jên a’i gŵr Martin Hoyland wedi bod yn fwy gweithgar nag erioed, ac erbyn hyn maen nhw nôl ar y sîn, efo sain cwbl newydd.
Yn sgîl eu cydweithio diweddar gyda’r drymiwr hybrid arloesol, Andy Gangadeen (Chase & Status, Lava La Rue), mae eu gwaith wedi esblygu, ac wedi symud yn ôl at ddylanwadau cerddorol cynharaf Lisa a Martin, 'Acid House' a 'free party scene' yr 80au a’r 90au.
Gan gyfuno atgofion cerddorol hirymarhous gydag arbrofion sonig cyfoes, mae’r sain y tro hwn yn fwy electronig, up-tempo a rhythmig, tra’n parhau’n driw i hunaniaeth 9Bach.
Y nod yw ail-greu’r 'trance perlesmeirus' hwnnw a brofodd Lisa mewn raves yn chwareli gogledd Cymru, drwy guriadau ewfforig sy’n gorfodi’r corff i symud.
Fel dywed Lisa, “Ma’r stwff newydd yn deillio o pwy ydw i, go iawn. Wedi’r cwbwl, raver ydw i yn fy nghalon, ddim cantores werin"