Achlysurol
Caffi Maes B

Yn ôl cylchgrawn 'Y Selar' mae sain y triawd o Gaernarfon a'r Felinheli yn "...fachog ac yn felodig" ac yn "gweddu i’r haf yn berffaith.” Mae'r band yn gweithio ar albwm newydd ar hyn o bryd

Mae Achlysurol yn cynnwys y brodyr Aled ac Ifan Emyr, a’u ffrind Ifan Williams. Glaniodd eu halbwm cyntaf, Rhywle Pell, fis Mai 2023, gan gynnwys senglau fel 'Caerdydd ym mis Awst', 'Un Noson Arall' a 'Golau Gwyrdd'.

Rhyddhawyd EP, Rhywle Pell, yn 2024, gan gynnwys y senglau 'Llwybr Arfordir' a 'Llwyd ap Iwan'. Mae'r band wedi chwarae ar lwyfannau gwyliau mawr Cymru, yn cynnwys yr Eisteddfod, Tafwyl, Triban a Sesiwn Fawr Dolgellau.

Facebook Instagram