Elfed Saunders Jones
Encore

Prosiect unigol Gruff ab Arwel, gynt o Eitha Tal Ffranco a'r Niwl

Mae hefyd wedi chwarae gydag "unrhyw un arall sy’n ddigon gwirion i ofyn iddo chwarae yn eu band byw" (oherwydd iddo wneud y camgymeriad yn gynnar yn ei yrfa o chwarae gitâr ac allweddellau ar lwyfan, mae’n ychwanegiad defnyddiol i unrhyw fand fel dau gerddor am bris un).

Yn wreiddiol o Gaernarfon ac yn dal i fyw yn y dref, mae Gruff wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth o du ôl i fwgwd Bitw ers 2019, gyda’i albwm cyntaf, ‘Bitw’, albwm go hunanfyfyriol, ac yna ‘Rehearse’ yn 2023, y sylwodd yn rhy hwyr nad oedd yn cynnwys gair o Gymraeg.

Er y bydd yn ei dridegau hwyr erbyn yr Eisteddfod, mae'n dal i esblygu ac wedi mentro i stiwdio Sain yn ddiweddar i recordio.

Bydd y record newydd allan erbyn Pasg 2026 ac mae'n addo y bydd yn cynnwys rhywfaint o ganeuon Cymraeg y tro yma.

Instagram