Ynys yw prosiect cerddorol Dylan Hughes, gynt o Race Horses a Radio Luxembourg. Mae'r pumawd yn cyfuno harmonïau dros drac sain hudolus o beiriannau llinynnau o’r 70au, synths o’r 80au a gitâr fuzz
O Aberystwyth, mae Ynys wedi rhyddhau dau albwm ar Recordiau Libertino, 'Ynys' (2022) a 'Dosbarth Nos' (2024), dau albwm o ganeuon cyfoethog, pop seicadelig bregus a melancolaidd sydd wedi derbyn adolygiadau gwych gan gynnwys pedair seren yng nghylchgrawn Mojo. Mae Ynys wedi chwarae mewn gwyliau fel Lleisiau Eraill, FOCUS Wales, a Sŵn, yn ogystal â theithio ar draws y DU.
Bu nifer o ganeuon Ynys yn draciau’r wythnos ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales ac Amazing Radio, ac mae’r band wedi chwarae sesiynau byw i raglen Marc Riley ar BBC 6 Music.
Mae albwm newydd Ynys, ‘Dosbarth Nos’ oedd ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig llynedd allan nawr ar Recordiau Libertino