Cymdeithasau
Sgwrs ar arwyddocâd gweithiau'r awdur Lladin toreithiog, Gerallt Gymro (c.1146–c.1223) ar gyfer deall yr amgylchedd yng Nghymru'r oesoedd canol
Awyr iachus Maenorbŷr, afancod afon Teifi, mynyddoedd geirwon Meirionnydd. Dyna ond ychydig o agweddau ar hinsawdd, natur a thirwedd Cymru a ddisgrifiwyd yn llawnach nag erioed o’r blaen gan Gerallt Gymro.
Eto, er mor fyw yw’r disgrifiadau arloesol hyn, prin eu bod yn gyflawn, gan eu bod yn adlewyrchu safbwynt eglwyswr dysgedig a rannai uchelgais drefedigaethol ei berthnasau yn y Mers.
Yr Athro Huw Pryce sy'n edrych ar sut y gallwn ddefnyddio geiriau a gwaith Gerallt Gymro er mwyn dod i ddeall mwy am amgylchedd yr oesoedd canol yng Nghymru