Cymdeithasau

English translation is available

Wedi 10 mlynedd fel Llywydd y Senedd, hwn bydd haf olaf Elin Jones AS wrth y llyw wedi iddi gyhoeddi’n gynharach eleni na fydd yn rhoi ei henw ymlaen i fod yn Llywydd wedi etholiad Mai 2026.

Yn Aelod Plaid Cymru dros Geredigion ers sefydliad Cynulliad Cymru yn 1999, etholwyd yn Llywydd yn 2016 a bydd y sgwrs hon dan arweiniad Nest Jenkins, ITV Cymru yn gyfle i edrych yn ôl ar ei hargraffiadau ar rhai o gerrig milltir y cyfnod ers 1999 a dathlu’r effaith y mae’r Senedd wedi’i chael ar ddemocratiaeth a bywyd yng Nghymru. Byddan nhw hefyd yn edrych tua’r dyfodol ac yn ystyried beth sydd o flaen y Senedd wedi’r etholiad nesaf