Andy Hickie image 2
Maes D

Sesiwn gan y canwr o Wrecsam sydd â'i ffocws ar ganeuon gwerin traddodiadol gyda gwreiddiau Cymreig a Gwyddelig wedi'u cyfuno â'i gyfansoddiadau ei hun

Mae Andy'n cynnal clybiau gwerin a nosweithiau acwstig yn ardal Wrecsam a’r cyffiniau ers dros 15 mlynedd, ac mae'i lwyddiannau cerddorol yn cynnwys chwarae yng Ngŵyl Glastonbury gyda’i fand o ‘Merry Maidens’, cydlynu’r prosiect cydweithio PAPERHOUSE, arwain y ddeuawd seicedelig 'Cosmic Dog Fog' ar eu taith drwy’r gofod gan chwarae ochr yn ochr â’i eilun Gruff Rhys, a hedfan i Ganada ar gyfer Breakout West Festival.

Yn ddiweddar mae Andy wedi lansio ei label recordio annibynnol Hound Sound Records

Facebook