Cynhelir y seremoni yng Nghylch yr Orsedd ar y Maes os yw'r tywydd yn braf
Ffanffer a gorymdaith yr Archdderwydd a’i gosgordd
Canu’r Corn Gwlad: Dewi Corn a Gwyn Anwyl
Gofynnir i aelodau’r gynulleidfa sefyll pan genir y Corn Gwlad i’w cyfeiriad, ac aros ar eu traed tra offrymir Gweddi’r Orsedd
Gweddi’r Orsedd: Rhys Meirion
Agor Cylch yr Orsedd: Yr Archdderwydd Mererid
Emyn Tôn: Sanctus
Molwn Di, O! Dduw ein tadau
Uchel ŵyl o foliant yw;
Awn i mewn i’th byrth â diolch,
Ac offrymwn ebyrth byw;
Cofiwn waith dy ddwylaw arnom,
A’th amddiffyn dros ein gwlad;
Tithau o’th breswylfa sanctaidd,
Gwêl a derbyn ein mawrhad.
Ti â chariad Tad a’n ceraist
Yn yr oesoedd bore draw;
O dywyllwch i oleuni
Y’n tywysaist yn dy law;
Cawsom Di ym mhob cenhedlaeth
Fel dy enw’n gadarn Iôr:
Cysgod gwell na’r bryniau uchel,
Ac na chedyrn donnau’r môr.
Cudd ni eto dan dy adain
A bydd inni’n fur o dân;
Tywys Di ein tywysogion,
Megis cynt â’th Ysbryd Glân;
Pâr i’n cenedl annwyl rodio
Yn dy ofn o oes i oes,
Gyda’i ffydd yng ngair y cymod,
Gyda’i hymffrost yn y groes.
Eifion Wyn
Gair o groeso gan yr Archdderwydd
Barddoniaeth bro: Aled Ardudwy
Cyflwyno’r Corn Hirlas i’r Archdderwydd: Rachel Thomas
Macwyaid y Llys: Ioan Massey a Gruffydd Thomas
Oedolyn o fro’r Eisteddfod sydd i gyflwyno’r Hirlas. Wrth ei estyn i’r Archdderwydd fe ddywed:
‘Hybarch Archdderwydd, yn enw aelwydydd Wrecsam , gofynnwn iti yfed o win ein croeso i’r Orsedd ac i’r Eisteddfod.’
Wedi i’r Archdderwydd yfed o’r Hirlas, fe’i dychwel i’r Cyflwynydd gan ddweud:
‘Diolch i ti. Gweddïwn am fendith y Nef ar gartrefi Wrecsam ac ar eich Eisteddfod.’
Croesawu cynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd a Gorsedd y Wladfa
Datganiad Cerdd Dant: Lona Meleri
Byr goffâd am y Gorseddogion: Y Cofiadur Christine
Yng nghanol ein llawenydd, gweddus ydyw dwyn ar gof y Gorseddogion a fu farw yn ystod y flwyddyn:
rhai y bu’n dda ganddynt drysorau ein llên mewn barddoniaeth a rhyddiaith;
rhai a oedd yn ymhyfrydu yng nghanu ein cenedl, yn sŵn y delyn a phob offeryn cerdd;
rhai a oedd yn cael boddhad o greu â’u dwylo geinder lliw a llun;
rhai a oleuodd ieuenctid ein gwlad â goleuni eu dysg;
a rhai a ddysgodd i ni ffordd tangnefedd gan ein harwain i garu Duw.
Diolchwn iddo Ef, ffynhonnell pob rhodd, am y doniau a fu yn ein plith; ymbiliwn am ei gysur i’r teuluoedd galarus ac am ei nawdd i’r Cylch gweddw hwn. Wrth inni wrando ar y gân goffa, cofiwn amdanynt oll.
Cân Goffa: Steffan Bryn Gwyn
Cyfarchiad barddol: Peredur Edeirnion
Urddo aelodau newydd:
(a) Prif enillwyr Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024
(b) Prif enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
(c) Trwy radd gymwys
(ch) Trwy arholiad yr Orsedd
(d) Er anrhydedd yr Orsedd
Hen Wlad fy Nhadau
Gorymdaith yr Archdderwydd a’r Orsedd o’r Cylch
Telynores y Seremoni: Telynores Waengoleugoed