Maes D
Sesiwn banel i ddathlu arweinydd newydd Cymru a'r Byd, y newyddiadurwr Maxine Hughes, sy'n adnabyddus am adrodd ar rai o straeon newyddion mwyaf y byd ynghyd â'i gwaith gyda'r actorion Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney wrth hyrwyddo'r Gymraeg yn fyd-eang
Bydd y sesiwn yn archwilio ei rôl wrth godi proffil Cymru a’n hiaith ar lwyfan y byd. Clywch am ei phrofiadau, ei llwyddiannau, a gweledigaeth yr Undeb ar gyfer y dyfodol. Cyfle i rwydweithio dros baned ar ôl y sesiwn – croeso cynnes i bawb!