Merched y Mor - Dim Geiriau
Theatr Stryd a Dawns

Addasiad beiddgar o’r chwedl Gymreig Merched y Môr gyda cherddoriaeth gan Kizzy Crawford

Mae gan bob gwlad ei stori – stori ei dechreuad, os mynnwch chi . . . Mae 'Merched y Môr' yn dapestri o’r gair llafar amlieithog, dawns ddynamig, a chyfuniad Kizzy Crawford o gerddoriaeth enaid / ffync / jazz.

Dewch gyda ni wrth i ni adrodd hanes tair menyw o wledydd gwahanol – ymladdwr, iachawr, ac arweinydd – sy’n teithio i ddod o hyd i anturiaethau newydd hyd nes bod gelyn annisgwyl yn eu hannog i gyd-sefyll a brwydro i amddiffyn y rhyddid i ddewis

Instagram Instagram