Pafiliwn

Gwobr goffa David Ellis

Y Rhuban Glas i gantorion 25 oed a throsodd

Bydd y panel beirniaid yn dewis tri chystadleuydd ar draws y categorïau lleisiol 25 oed a throsodd i ganu eto yn y rownd derfynol i gyflwyno:

    1. Yr unawd Rhan A yn y dosbarth
    2. Hunanddewisiad o unawd gan gyfansoddwr/gyfansoddwraig o Gymru ac eithrio dewisiadau Rhan B unawdau 25 oed a throsodd

Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £300, sy'n arian o gronfa goffa y diweddar Aeron Gwyn, enillydd Gwobr goffa David Ellis yn 2005. Estynnir gwahoddiad arbennig i'r enillydd i berfformio yn nathliadau Gŵyl Ddewi Eglwys Gymraeg Melbourne yn 2026

Gwobr: Medal goffa David Ellis (yn rhoddedig gan fanc NatWest rhanbarth gogledd a gorllewin Cymru) a £300 (Teulu Maes y Pandy, Pontfadog, Richard, Bethan ac Owain Rhys Jones)

Beirniaid: Eldrydd Cynan Jones, Catrin Wyn-Davies ac Arwel Treharne Morgan

Cyfeilyddion: Glian Llwyd, Branwen B Evans, Jeffrey Howard a Rhiannon Pritchard