Pafiliwn
Unawd allan o sioe gerdd 19 oed a throsodd
i gyflwyno cân allan o sioe gerdd Gymraeg wreiddiol
Perfformiad heb fod yn hwy na 5 munud
Gellir defnyddio piano neu gyfeiliant addas neu drac cefndir, ond dylid cofio am anghenion technegol y llwyfan a’r rhagbrawf. Bydd y cystadleuwyr yn gyfrifol am eu cyfeilydd/ion eu hunain. Caniateir canu mewn unrhyw gyweirnod
Gwobrau:
- (£1000) Ysgoloriaeth Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru i’r enillydd a £150 (Cyfrifwyr Hill & Roberts Rhuthun, Cyfrifwyr Hill & Roberts, Rhuthun, sy’n darparu ystod eang o wasanaethau cyfrifeg a threthiant ar gyfer busnesau ac unigolion)
- £120
- £90
Beirniaid: Caitlin Drake a Luke McCall
Monolog 16 ac o dan 19 oed
Monolog o ddrama, rhyddiaith neu waith gwreiddiol. Caniateir hyd at 5 munud ar gyfer y cyflwyniad cyfan, gan gynnwys paratoi a chlirio’r llwyfan.
Gwobrau:
- £100 (Adran y Gymraeg Coleg Cambria)
- £80
- £60
Beirniaid: Rhian Blythe ac Owen Arwyn Owen