Perfformiad o ganeuon gwerin gwreiddiol a thraddodiadol. Mae caneuon Danny yn ddathliad o gariad a bywyd, ond hefyd yn ffordd iddi fynegi a phrosesu galaru a'i iechyd meddwl ers iddi golli ei mab. Yn aml mae ei chaneuon yn dangos gwrthgyferbyniad rhwng prydferthwch y byd naturiol a'r tywyllwch sydd tu fewn.
Brwydr y Bandiau Gwerin
i artistiaid lleisiol a / neu offerynnol unigol, grŵp neu fand gwerin
Partneriaeth rhwng yr Eisteddfod a BBC Radio Cymru, sy'n ymgais i ddarganfod talent cerddoriaeth werin Gymraeg newydd. Diffinnir gwerin fel caneuon ac alawon traddodiadol Cymreig neu ganeuon newydd yn y dull gwerinol
Gwobr: £600 (Bethan Rhiannon a Huw Williams, Er cof am Angharad, Mam Bethan o'r band Calan. Roedd Angharad yn arwr cerddoriaeth traddodiadol Cymreig, yn bennaf i aelodau y band Calan. Cyfrannodd ei halawon ei hun i'r traddodiad, a chyfeiliodd i nifer o ddawnswyr ar lwyfan yr Eisteddfod. Cafodd effaith aruthrol ar y sin gerddoriaeth draddodiadol Gymreig, yn aml heb i neb sylwi, ond roedd bob amser yn greiddiol i lwyddiannau Calan a hyder eraill)
Beirniaid: Gwenan Gibbard ac Iestyn Tyne