Bwncath yw un o fandiau mwyaf poblogaidd a phrysuraf Cymru, gyda'u perfformiadau byw a'u caneuon bachog, a cherddoriaeth sy'n cyfuno traddodiad a chreadigrwydd modern
Sefydlwyd y band yn 2014, a thros y blynyddoedd maen nhw wedi ennill eu lle ym myd cerddoriaeth Cymru, ac yn cael eu hystyried fel un o’r bandiau mwyaf arloesol yng Nghymru.
Yn 2017, rhyddhaodd Bwncath eu halbwm cyntaf, ac yn 2020, dilynwyd hynny gan 'Bwncath II'. Cynhyrchydd y band yw Robin Llwyd, sydd hefyd yn chwarae'r gitâr flaen.
Uchafbwynt y band hyd yma yw eu perfformiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn 2023, lle torrwyd y record ar gyfer y gynulleidfa fwyaf erioed mewn gig cerddoriaeth Gymraeg.
Prif leisydd a chyfansoddwr y band yw Elidyr Glyn, sydd wedi gwneud enw i’w hun fel un o enillwyr 'Cân i Gymru' yn 2019 gyda’i gân 'Fel Hyn da ni Fod'.
Bydd eu halbwm diweddaraf, 'Bwncath III' yn ychwanegu mwy o ganeuon newydd at y casgliad