Y Lle Celf

Anterliwt fodern sy'n ddarn o theatr absẃrd wedi'i hysgrifennu a'i pherfformio gan Tom Meilleur ac Aled Roberts. Mae dwy frân wedi'u rhwymo gyda'i gilydd y tu fewn i atom sydd wedi'i ryddhau gan ffrwydrad trychinebus. O'r sefyllfa unigryw hon maent yn gallu archwilio hanes, treftadaeth a bywyd bob dydd Wrecsam

Gydag ymwybyddiaeth gomig athronyddol maent yn cyfathrebu'r hyn maen nhw'n ei ddarganfod.

Mae Tom ac Aled wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ers mis Hydref 2024, maen nhw wedi bod yn cwrdd yn aml i ddilyn afon Gwenfro o ble mae'n ymuno ag afon Clywedog yn Wrecsam hyd at ei tharddiad ym Mwlchgwyn. Yn ystod y gyfres hon o deithiau ar hyd yr afon mae'r syniadau ar gyfer yr 'Anterliwt amgen' wedi datblygu. Maent hefyd wedi defnyddio fel ysbrydoliaeth atgofion eu plentyndod o dyfu i fyny yn Wrecsam.

Bydd cyfres o berfformiadau hefyd yn cael eu cynnal yn nhref Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod.