cat01013big
Tŷ Gwerin

Sesiwn unigol gyda phrif ganwr y band gwerin Allan yn y Fan sy'n defnyddio hiwmor a'r ddawn i adrodd stori i gludo’r gynulleidfa i leoedd yn y gorffennol a’r presennol

Magwyd Catrin O’Neill ger y môr yn Aberdyfi, De Eryri, wedi ei hamgylchynu gan gyfoeth o gerddoriaeth a diwylliant traddodiadol Cymreig. Ei Nain oedd un o’r rhai cyntaf i’w chyflwyno i hud caneuon gwerin traddodiadol, a byddai’n eu canu yn y gegin wrth ymyl yr Aga gynnes a phaned o de yn ei llaw.

Catrin hefyd yw prif ganwr Allan yn y Fan, un o fandiau gwerin traddodiadol mwyaf adnabyddus Cymru. Mae hi wedi teithio’n helaeth yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon ac Ewrop ac mae’n perfformio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae Catrin hefyd yn ymgyrchydd cymunedol angerddol sy’n canolbwyntio ar yr argyfwng tai, hybu’r Gymraeg a pherchnogaeth gymunedol

Facebook Instagram Youtube