Cymdeithasau

Dewch ar daith i glywed hanes cofiadwy'r bartneriaeth unigryw Edwin ac Eirian Tŷ Mawr Carrog, a'u cyfraniad gydol oes, i gymdeithasau a sefydliadau Cymru.

Cewch wrando a hel atgofion gan ryfeddu at ymroddiad y ddeuawd berffaith yma, i'r iaith Gymraeg a'r pethe. O'r mawreddog i'r lleol, o Edeyrnion, i Faes Garmon a llwyfannau Cymru.

Croesawn ni chi i wrando ar drafodaeth ysgafn, gyda'r atgofion a'r teyrngedau mwyaf melys, ac efallai ambell gyfrinach am yr hwyl a'r trafferthion wrth geisio cadw'r Divas Cymreig mewn trefn!