Pafiliwn

Rhaglen o gerddoriaeth hunanddewisiad hyd at 12 munud o hyd i gynnwys darn digyfeiliant a darn gan gyfansoddwr o Gymru. Gellid cyfuno'r ddwy elfen a chael darn digyfeiliant gan gyfansoddwr o Gymro/Gymraes. Ni chaniateir i unrhyw gôr ailganu cân mewn categori arall adeg yr Ŵyl

Gwobrau:

  • Cwpan y ‘Daily Post’ i'w ddal am flwyddyn. Cyflwynir Medal Goffa Twm Dwynant i’w dal am flwyddyn i arweinydd y côr buddugol. a £800 (Pendine Arts and Community Trust, Ymddiriedolaeth Gelfyddydau a Chymunedol Pendine)
  • £600
  • £400

Beirniaid: Aled Phillips, Brian Hughes a Jean Stanley Jones