Ffurfiwyd Cordia nôl yn 2015 er mwyn cystadlu yng nghystadleuaeth Brwydr Y Bandiau. Yn 2016 fe ennillwyd cystadleuaeth Cân i Gymru a'r Wyl Ban Geltaidd gyda'u cân wreiddiol 'Dim Ond Un'. Yn dilyn eu llwyddiant fe ryddhawyd ei EP cyntaf Tu ôl i'r Llun. Aeth aelodau Cordia ymlaen i brifysgolion i astudio a penderfyny gymryd seibiant o berfformio am y tro. Yn 2024, ail-ffurfiwyd Cordia i ryddhau cerddoriaeth newydd a chael Trac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru gyda 'Ti Bron Yna'.
Mi fydd eu perfformiad yn yr Eisteddfod yn gyfle i arddangos eu halbwm newydd a gafodd ei ryddhau ddechrau hâf 2025 'ADFYW'. Mae'r albwm yn adlewyrchu ar eu profiadau bywyd y ers iddyn nhw ganu gyda'i gilydd ddwytha'. Cafodd yr albwm i'w chynhyrchu yn Stiwdio Tyn Rhos, Engedi gyda'r cynhyrchydd, Rhys Jones.