Darlleniad o ddrama fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, 'Eiliad o Ddewiniaeth' gan Cai Evans, gyda Manon Wilkinson, Ianto Williams a Cedron Siôn. Cyfarwyddwyd gan Morfudd Hughes a Cefin Roberts
Drama ddwys/ddigri yw 'Eiliad o Ddewiniaeth' am fachgen bach sy'n cael ei hun ar y cyrion unig yn feunyddiol.
Gyda'i ffrindiau'n troi cefn ac yn galw enwau arno mae ei fam, Alys, yn ymwybodol iawn fod ei mab wedi ei ynysu yn ei fyd bach ei hunan.
Ei ddihangfa yw'r bêl gron a lleisiau'r ddau sylwebydd, Clive a Jim, sydd wedi gweld potensial aruthrol yn nhalent y 'bachgen bach o Fryntywyll'. Talent y mae Ceri'n grediniol fydd yn ei alluogi i weld ei dad unwaith yn rhagor ar ôl sbel go faith.
Ond, yn absenoldeb tad ar yr aelwyd, daw ymwelydd annisgwyl i gartref Alys a Ceri fydd yn graddol newid trywydd y ddrama a bywydau'r fam a'r mab hefyd.
Gyda phlant a phobl ifanc yn dianc fwyfwy i'w bydoedd bach eu hunain mae hon yn ddrama sy'n berthnasol i bawb o bob oed.
Dyma fenter gyntaf Cwmni Ben Set