Cadair y dysgwyr
Barddoniaeth
Cerdd ar unrhyw ffurf
Testun: Perthyn
Gwobr: Cadair y dysgwyr a £200 (Ann Aubrey)
Beirniad: Rhys Iorwerth
Tlws rhyddiaith y dysgwyr
Rhyddiaith
Darn o ryddiaith hyd at 500 o eiriau
Testun: Her
Gwobr: £200
Beirniad: Beca Brown
Lefel Mynediad
Darn hyd at 100 o eiriau
Testun: Sgwrs mewn gorsaf
Gwobr: £75 (DEbbie Smith, i ddathlu dysgwyr Cymraeg ar draws y byd)
Beirniad: Eirian Conlon
Lefel Sylfaen
Darn hyd at 150 o eiriau
Testun: Sgwrs mewn gêm
Gwobr: £75 (Er cof am f'annwyl dad, Matthew Lyndsay Evans, a anogodd fi yr holl ffordd trwy fy siwrne i ddysgu Cymraeg fel oedolyn, gan Rwth Evans)
Beirniad: Jeni Harris
Lefel Canolradd
hyd at 200 o eiriau
Testun: Adolygiad llyfr o gyfres 'Amdani'
Gwobr: £75 (Er cof am y diweddar Dorothy Selleck OBE fu'n Arolygydd Ei Mawrhydi ac yn un o bedwar Llywydd Oes OMEP/Unesco, gan Sioned Bowen)
Beirniad: Rocet Arwel Jones
Lefel Agored
Darn hyd at 250 o eiriau
Testun: Rant heb regi!
Gwobr: £75 (Er cof am Miss Pamela Davies, gan Mabyn Pickering, Rhostyllen)
Beirniad: Tudur Owen
Podlediad
Agored
Podlediad (i’w gyflwyno fel trac sain neu fideo) hyd at 3 munud
Testun: Ein hardal ni: Ddoe a Heddiw
Gwobr: £75 (Dr Ju Gosling, dysgwr a artist)
Beirniaid: Meilir Rhys Williams a Steffan Prys Roberts
Cystadleuaeth ieuenctid
o dan 19 oed
Cyflwyno flog rhwng 3 a 5 munud
Testun: Chwaraeon
Gwobr: £75 (Busnes teuluol yng ngogledd ddwyrain Cymru yw Rebel Dragon Designs. Fel dysgwyr Cymraeg, rydym wedi ymroi i greu dyluniadau sy’n cefnogi ac yn annog eraill i ddefnyddio’r iaith ar bob achlysur posib)
Beirniad: Heledd Anna Roberts
Gwaith grŵp
i ddau berson neu fwy
Casgliad o ddeunydd, ar unrhyw ffurf, i ddenu ymwelwyr i'ch ardal
Gwobr: £75
Beirniad: Nia Parry
Agored
i ddysgwyr | tiwtoriaid | siaradwyr Cymraeg hyderus
Cyflwyno pennod agoriadol ar gyfer nofel Lefel Canolradd
Gwobr: £75
Beirniad: Elwyn Hughes