Sefydlwyd Cymdeithas Ddiwylliannol ac Artistig Tsieineaidd Phoenix y DU dros 10 mlynedd yn ôl i ddod ag menywod Tsieineaidd sy’n byw yn y DU at ei gilydd drwy ddawns a gweithgareddau diwylliannol traddodiadol. Wedi’i lleoli yn Lerpwl, mae ein haelodau’n teithio o bob cwr o Ogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru – gan gynnwys Manceinion, Blackpool, Llandudno ac Ynys Môn – i ymarfer bob wythnos. Gwirfoddolwyr yw’r holl aelodau, ac maent yn rhannu angerdd dwfn dros hyrwyddo diwylliant Tsieineaidd.
Mae'r gymdeithas yn perfformio’n rheolaidd mewn dathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd mawr yn Lerpwl a Manceinion, ac yn cydweithio’n agos â’r Ganolfan Aml-ddiwylliannol yn Wrecsam a Chymdeithas Menywod Tsieineaidd Gogledd-ddwyrain Cymru i gefnogi digwyddiadau diwylliannol trwy gydol y flwyddyn. Mae llawer o’n haelodau hefyd wedi dychwelyd i Tsieina i astudio a chael cymwysterau mewn dawns a traddodiadol eraill.
Cyflwynir gan: Hwb aml ddiwylliannol Gogledd Dwyrain Cymru