Ymunwch â phanel o selogion y Wal Goch mewn sgwrs gyda Mei Emrys gyda pherfformiadau o rai o'u caneuon adnabyddus gan Owain Gruffudd Roberts a Band Pres Llareggub
Mae cefnogwyr Cymru'n adnabyddus am eu hanogaeth groch mewn gemau pêl droed. Un o nodweddion amlycaf cefnogaeth a diwylliant y ‘Wal Goch’ yw cryfder y canu a’r modd y mae’r aelodau – o dan arweiniad y Barry Horns, yn aml – yn defnyddio cerddoriaeth o bob math i fynegi eu hangerdd.
Mae’n amlwg felly bod cysylltiad agos rhwng camp y bêl gron a cherddoriaeth boblogaidd a bydd y digwyddiad hwn yn dathlu hynny, drwy gyfeirio at nifer o ganeuon Cymraeg sy’n ymwneud yn benodol â phêl-droed, ynghyd ag alawon adnabyddus eraill sydd wedi cael eu mabwysiadu a’u haddasu gan gefnogwyr ac sydd bellach wedi cael eu troi i mewn i ‘emynau’r eisteddle’, yn sgil hynny.
Dewch draw i fwynhau parti pêl-droed cerddorol mwyaf wythnos yr Eisteddfod!