Pafiliwn

Unrhyw gyfuniad o leisiau i gyflwyno rhaglen o gerddoriaeth hunanddewisiad heb fod yn hwy na 10 munud, ac i gynnwys darn gan gyfansoddwr o Gymru. Ni chaniateir i unrhyw gôr ailganu cân mewn categori arall adeg yr Ŵyl.

Gwobrau:

  • Cwpan Miss Menai Williams a Mrs Nesta Davies i'w ddal am flwyddyn a £600
  • £400 (Nia M Humphreys (Ms), Rhodd gan Nia M Humphreys i gofio'n annwyl a diolchgar am fywyd ei rhieni, y diweddar Gwilym a Carys Humphreys ac am ei brawd y diweddar Gareth Wyn Humphreys)
  • £200 (Teulu Dr J Philip Davies, Er cof am Dr J Philip Davies gan Eira, Delyth a Branwen)

Beirniaid: Jean Stanley Jones, Aled Phillips a Brian Hughes