Dafydd Iwan
Llwyfan y Maes

Wedi canu ym mhob Eisteddfod ers 1965, mae Dafydd Iwan yn dweud mai hwn fydd ei berfformiad olaf ar Lwyfan y Maes! Bydd ei fand enwog yn ymuno ag ef

Dywed Dafydd, "Mae'n rhaid tynnu'r llinell yn rhywle, ac rwy'n edrych ymlaen at fwynhau sawl 'Steddfod eto o'r seddau cefn!"

Aelodau'r band yw Hefin Elis (bas), Pwyll ap Siôn ac Euros Rhys (allweddellau), Wyn Pearson (gitâr flaen) a Dei Elfryn (drymiau) ac maent wedi bod yn chwilio am ambell gân na chlywyd o'r blaen!

X