Sinemaes

Ffilm fer sy'n dod â chwedl Arianrhod yn fyw ar strydoedd Bangor, gan ddefnyddio golygfeydd o Ran I a Rhan II y drioleg OLION gan Frân Wen, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn

Roedd trioleg OLION gan Frân Wen yn brofiad theatrig unigryw ar ffurf sioe theatr lwyfan, theatr awyr agored ar strydoedd Bangor, a ffilm fer.

Dyma gyfle i fwynhau rhan olaf y drioleg, gyda sesiwn holi ac ateb yn trafod creu gwaith aml-gyfrwng gyda'r cyfarwyddwr ffilm, Dafydd Palfrey, y dramodydd, Angharad Elen a chyfarwyddwr creadigol Olion, Gethin Evans i ddilyn