Y Lle Celf

Dathliad o waith y diweddar Childe Rowland/Peter Meilleur, bardd amlieithog, arbrofol o Quebec, Canada a symudodd i Langollen yn 1979. Gydag Aled Lewis Evans ac Aled Roberts a cherddoriaeth gan Beth Jones

Magwyd Peter (1943-2019) yn Quebec, Canada cyn symud i Langollen yn 1979. Roedd hyn yn symudiad pwysig o safbwynt ei farddoniaeth - adiodd yr iaith Gymraeg at ei Ffrangeg a'i Saesneg brodorol. Roedd ganddo lais herodrol ac roedd yn adnabyddus am ei farddoniaeth weledol a'i gymeriad arbennig.

Gwrandewch ar y beirdd Aled Lewis Evans ac Aled Roberts yn adrodd y gerdd eiconig, 'Dee and Deeper', gyda cherddoriaeth gan Beth Jones yn gyfeiliant. Yn dilyn hyn, bydd y ddau Aled yn cynnal trafodaeth am y bywyd yng ngwaith Peter, ac yn croesawu cwestiynau a chyfraniadau gan y gynulleidfa.

Bydd nifer o lyfrau cerfluniol Peter yn cael eu harddangos ac ar gael i'w gweld, os cânt eu trin gyda gofal.