Y Stiwdio

Yn dilyn marwolaeth trist Llywydd cyntaf y Senedd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn gynharach eleni, bydd y sesiwn hwn ymysg aelodau o’u deulu, ffrindiau a chydweithwyr yn gyfle  ddathlu ei fywyd a’i gyfraniad i fywyd Cyhoeddus Cymru.

Fel ffigwr allweddol ar y daith i ddatganoli, arweiniodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas y Cynulliad newydd sbon drwy ei 12 mlynedd cyntaf o fodolaeth. Ei arweinyddiaeth gadarn yn ystod y cyfnod hwn a roddodd y Cynulliad ar y trywydd i fod y Senedd y mae heddiw.