Tŷ Gwerin

Dawnswyr Aberystwyth yw un o grwpiau dawns hynaf Cymru a ddechreuwyd dan ofal Gwennallt Davies, un o hoelion wyth y byd dawns a oedd yn gyfrifol gyda Lois Blake ac eraill am sefydlu Cymdeithas Ddawns Werin Cymru, trefnwyr y sesiwn hon

Mae'r grŵp yn dal i ddawnsio, yn cynnal Twmpathau yn aml ac yn gyfrifol am drefnu Gŵyl Ddawns Llangadfan bob blwyddyn