Eist Gen 2024
Tŷ Gwerin

Ymunwch â Dawnswyr Caernarfon, sy'n dathlu 50 mlynedd o ddawnsio eleni, i fwynhau amrywiaeth o ddawnsiau, cyfarwydd ac anghyfarwydd. Trefnir gan Gymdeithas Ddawns Werin Cymru

Mae Dawnswyr Caernarfon yn griw bach sy'n cyfarfod i ddawnsio yn wythnosol i fwynhau a chymdeithasu. Dros y blynyddoedd maen nhw wedi ymdrechu i hybu dawnsio gwerin drwy arddangos yn gyhoeddus ar y stryd, arddangos mewn cyngherddau bach a mawr, eisteddfodau ac mewn gwyliau cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt.

Mae sawl taith dramor wedi bod a chafwyd y fraint o gynrychioli Cymru yng ngŵyl fawr Lorient, ddwywaith


Cyfansoddi dawns

Cyfansoddi dawns addas i grŵp o ddawnswyr profiadol ar thema 'Y Ffîn'

Gwobr: £200

Beirniaid: Angharad James a Steffan Prys Roberts