Sesiwn unigryw gyda dawnswyr o fryniau Casia, India, a Dawnswyr Delyn, Sir y Fflint. Cawn hanes y wisg Gymreig a dawns gan yr ymwelwyr o India mewn sesiwn a drefnir gan Gymdeithas Ddawns Werin Cymru
Ardal o fryniau sy'n rhan o gadwyn Garo-Khasi yn nhalaith Meghalaya, gogledd-ddwyrain India, yw Bryniau Khasia. Yn ôl y sôn, mae cysylltiad cryf rhwng Sir y Fflint a bryniau Casia. Byddwn yn clywed sut aeth y siôl Gymreig draw at fryniau Casia, lle maen nhw'n ei gwisgo a'i defnyddio i gario plant ar eu cefnau hyd heddiw.
Mae patrymau a lliwiau brethyn o Sir y Fflint yn dal i'w gweld yn rhan o wisg y gwragedd. Mae gan fenywod bryniau Casia ddawns arbennig, felly cawn gymharu'r ddau draddodiad; sef camau clocsio a dawns y siòl Gymreig a dawns Casia.
Yn ogystal â'r dawnsio cawn olwg a thrafod y wisg. Sesiwn dan arweiniad Meinir Siencyn a Dawnswyr Delyn, Cefyn Burgess a gwragedd bryniau Casia