Tŷ Gwerin

Alice Hughes, Angharad Harrop a Megan Roberts sy'n arddangos a chymharu dwy ddawns arbennig, y Fflamenco a Morfa Rhuddlan. Trefnir gan Gymdeithas Ddawns Werin Cymru

Cawn weld eu camau gwreiddiol, clywed esboniad a hanes tarddiad y dawnsfeydd a chymharu'r hyn sy'n debyg ac yn wahanol ynddyn nhw. Mae emosiwn cryf a gweledol i’r storïau y tu ôl i'r ddwy ddawns.

Mae'r Fflamenco'n dal emosiwn cryf ac yn ei bortreadu drwy’r corff, camau a symudiadau, tra bod Morfa Rhuddlan yn dangos emosiwn colli Llywelyn ein Llyw Olaf drwy ddefnydd o'r siôl a chamau yn y ddawns. Bydd cerddoriaeth draddodiadol y ddwy ddawns hefyd i’w glywed fel cyfeiliant