Gwyddoniaeth a Thechnoleg

English translation is available

Yr Athro Gareth Wyn Jones sy'n trafod sut y gallwn sicrhau mwy o ynni i gynnal ein holl weithgareddau gan gynnwys prosesu gwybodaeth yn ein hymennydd a’n dyfeisiadau a’n bwydo

Heb ynni ‘llithro i’r llonyddwch mawr yn ôl’ yw ffawd bod pob creadur a phob gwareiddiad.

Ers y Chwyldro Diwydiannol a’n gallu i ffrwyno’r ynni mewn tanwydd ffosil, gwelwyd cyflymu rhyfeddol yn ein gweithgaredd a’n pŵer ac yn safon byw canran sylweddol ohonom.

All hyn barhau? Beth yw ei oblygiadau? A oes ‘drwg yn y caws’?