Profiad llawn hiwmor a hud, lle mae'r ffin rhwng y perfformwyr a’r gynulleidfa yn toddi i greu noson gwbl annisgwyl sy'n cyfuno elfennau drag gyda pherfformiad byrfyfyr ym myd hudolus 'Dungeons & Dragons'
Mae 'Drag a Dreigiau' yn berfformiad llwyfan unigryw sy’n dathlu theatr, drag a chreadigrwydd, lle mae’r gynulleidfa, yn yr un modd â’r perfformwyr, yn dod yn rhan annatod o’r antur.
Yng ngwir ysbryd perfformio drag, mae’r gynulleidfa'n cael eu hannog i gymryd rhan, gan gyfrannu at ddatblygiad y stori drwy wneud penderfyniadau, ffurfio cynghreiriau gyda’r cymeriadau, a dylanwadu ar y cyfeiriad y mae’r antur yn ei gymryd.
Wrth archwilio’r byd ffantasi hwn, maen nhw'n darganfod drama, bwystfilod, trysorau, a chymeriadau lliwgar – pob un â’u cymhellion dirgel!