Sinemaes
Mae 'Dŵr yn Win' yn ffilm fer arbrofol yn y Gymraeg sy'n archwilio alcoholiaeth a dibyniaeth ymhlith pobl ifanc. Mae menyw ifanc yn mynd i mewn i ystafell ymolchi, ac wrth iddi roi ei phen o dan ddŵr y bath, mae hi'n deffro mewn byd breuddwydiol, lle mae ei alcoholiaeth yn ei hamgylchynu. Wrth iddi wynebu ei dibyniaeth, mae hi'n sylweddoli y gallai ei chysylltiadau â phlentyndod, treftadaeth ac iaith gynnig dihangfa iddi. Cynhyrchiad Ysgol Ffilm Bournemouth, wedi'i ysgrifennu a'i gyfarwyddo gan y ffilmiwr o Gaerdydd Ruby Smith-Brown a'i gynhyrchu gan Evelyn Norman-Rodgers.