Tŷ Gwerin
Deuawd ffliwt ddeinamig sy'n cyfuno diddordeb Lleucu ac Enlli mewn alawon gwerin, dawns draddodiadol, cerddoriaeth glasurol a diwylliant Cymreig i gynhyrchu gwaith sy’n ymgorffori effeithiau electroneg
Yn 2023 enillodd Dwy gomisiwn gan yr Eisteddfod Genedlaethol a Chyngor y Celfyddydau i greu perfformiad awyr agored fel rhan o brosiect WYTH a fyddai’n gwthio’r ffiniau traddodiadol a dod â dawns y glocsen at gynulleidfaoedd newydd. Mae Dwy wedi mwynhau datblygu ac ehangu ar y syniad hwn ers hynny. Eleni mae Dwy wedi’u dewis yn Artistiaid Preswyl Ynys Enlli. Mae hwn yn gyfle hynod gyffrous i greu gwaith aml-gyfrwng unigryw newydd yn cwmpasu cerddoriaeth a dawns, ynghyd â natur, hanes a hinsawdd yr ynys